text_en
large_stringlengths
2
1.78k
text_cy
large_stringlengths
3
1.84k
Where an employer is prosecuted for a failure to allow a worker to take holidays, it is for the employer to prove that the worker was allowed to take the number of days holidays that the employer imposed, contrary to the number of days holidays specified in the relevant agricultural wages order.
Pan fo cyflogwr yn cael ei erlyn am fethu â chaniatáu i weithiwr gymryd gwyliau, y cyflogwr sydd i brofi bod y gweithiwr wedi cael caniatâd i gymryd nifer y diwrnodau o wyliau a osododd y cyflogwr, yn groes i nifer y diwrnodau o wyliau a bennir yn y gorchymyn cyflogau amaethyddol perthnasol.
Section 7 - Duty of employers to keep records
Adran 7 - Dyletswydd ar gyflogwyr i gadw cofnodion
The Welsh Ministers may make regulations requiring employers of agricultural workers to keep specific records which are relevant to this Act.
Caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau sy'n ei gwneud yn ofynnol i gyflogwyr gweithwyr amaethyddol gadw cofnodion penodol sy'n berthnasol i'r Ddeddf hon.
For example, these records might include wages slips, time sheets, contract of employment and information relating to the holiday leave.
Er enghraifft, gallai'r cofnodion hyn gynnwys slipiau cyflog, taflenni amser, contract cyflogaeth a gwybodaeth yn ymwneud â gwyliau.
If the Welsh Ministers do make regulations under this section, by virtue section 5 of this Act, it will be an offence for an employer not to keep the specific records, or to deliberately make (or allow to be made) false entries in the records.
Os bydd Gweinidogion Cymru yn gwneud rheoliadau o dan yr adran hon, yn rhinwedd adran 5 o'r Ddeddf hon, bydd yn drosedd i gyflogwr beidio â chadw'r cofnodion penodol neu, yn fwriadol, wneud (neu ganiatáu i rywun wneud) cofnodion anwir.
The penalty for this, if convicted, is an unlimited fine.
Y gosb am y drosedd hon, os sicrheir collfarniad, yw dirwy ddiderfyn.
Section 8 - Appointment of officers
Adran 8 - Penodi swyddogion
This section enables the Welsh Ministers to appoint enforcement officers to act in Wales.
Mae'r adran hon yn galluogi Gweinidogion Cymru i benodi swyddogion gorfodi i weithredu yng Nghymru.
In performing their duties officers must, if asked, produce appropriate identification proving that they are authorised to carry out such duties.
Wrth gyflawni eu dyletswyddau rhaid i swyddogion, os gofynnir iddynt wneud hynny, gyflwyno dogfen adnabod briodol i ddangos eu bod wedi eu hawdurdodi i gyflawni'r dyletswyddau hynny.
In addition, where officers are under the impression that any person they are talking to doesn't know that they are carrying out duties in relation to enforcing compliance with this legislation, the officers must explain that to the person.
Yn ogystal, pan fo swyddogion o dan yr argraff nad yw unrhyw berson y maent yn siarad ag ef yn gwybod eu bod yn cyflawni dyletswyddau mewn perthynas â gorfodi cydymffurfedd â'r ddeddfwriaeth hon, rhaid i'r swyddogion esbonio hynny i'r person.
Section 9 - Information obtained by officers
Adran 9 - Gwybodaeth a ddaw i feddiant swyddogion
Under this section, information that has been obtained by officers for the purposes of the Act may be supplied to the Welsh Ministers (typically to enable them to bring prosecutions under the Act) or to the person to whom the information applies (so that civil proceedings may be brought in respect of the underpayment).
O dan yr adran hon, caniateir rhoi gwybodaeth a ddaw i feddiant swyddogion at ddibenion y Ddeddf i Weinidogion Cymru (fel arfer, er mwyn eu galluogi i ddod ag erlyniadau o dan y Ddeddf) neu i'r person y mae'r wybodaeth yn gymwys iddo (fel bod modd dwyn achos sifil mewn cysylltiad â'r tandaliad).
However, the Welsh Ministers may not supply information received under this section to any other person or body unless it is required for criminal or civil proceedings.
Fodd bynnag, ni chaniateir i Weinidogion Cymru roi'r wybodaeth a geir o dan yr adran hon i unrhyw berson neu gorff arall oni bai bod ei hangen ar gyfer achos troseddol neu sifil.
Section 10 - Meaning of "the national minimum wage"
Adran 10 - Ystyr "yr isafswm cyflog cenedlaethol"
This section provides the definition of the national minimum wage for the purposes of this Act.
Mae'r adran hon yn darparu'r diffiniad o'r isafswm cyflog cenedlaethol at ddibenion y Ddeddf hon.
In most cases this is the minimum single hourly rate as set by regulations made under section 1 (3) of the 1998 Act.
Yn y rhan fwyaf o achosion hon yw'r gyfradd sengl isaf yr awr fel y'i gosodir gan reoliadau a wneir o dan adran 1 (3) o Ddeddf 1998.
However, in the circumstances set out in subsection (2) to (5) of this Act a different rate for the national minimum wage may be deemed to apply.
Fodd bynnag, o dan yr amgylchiadau a nodir yn is-adrannau (2) i (5) o'r Ddeddf hon, caniateir barnu bod cyfradd wahanol ar gyfer yr isafswm cyflog cenedlaethol yn gymwys.
Section 11 - Amendment of the Working Time Regulations
Adran 11 - Diwygio'r Rheoliadau Oriau Gwaith
This provision makes consequential amendments to the Working Time Regulations 1998 to ensure that those regulations continue to apply to agricultural workers in Wales in the same manner as they currently do in relation to the annual leave year for agricultural workers.
Mae'r ddarpariaeth hon yn gwneud diwygiadau canlyniadol i Reoliadau Oriau Gwaith 1998 er mwyn sicrhau bod y rheoliadau hynny yn parhau i fod yn gymwys i weithwyr amaethyddol yng Nghymru yn yr un modd ag y maent ar hyn o bryd mewn perthynas â blwyddyn gwyliau blynyddol gweithwyr amaethyddol.
Section 12 - Transitional provision
Adran 12 - Darpariaeth drosiannol
This section provides for the provisions of the Agricultural Wages (England and Wales) Order 2012 (as they were when that order was made on 20 July 2012) to have effect in relation to agricultural workers in Wales from 1 October 2013.
Mae'r adran hon yn darparu bod darpariaethau Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru a Lloegr) 2012 (fel yr oeddent pan wnaed y Gorchymyn hwnnw ar 20 Gorffennaf 2012) i gael effaith mewn perthynas â gweithwyr amaethyddol yng Nghymru o 1 Hydref 2013 ymlaen.
Those provisions will cease to have effect when the Welsh Ministers make a new agricultural wages order under section 4 of the Act.
Bydd y darpariaethau hynny yn peidio â chael effaith pan fydd Gweinidogion Cymru yn gwneud gorchymyn cyflogau amaethyddol newydd o dan adran 4 o'r Ddeddf.
For the purposes of enforcing the provisions of the 2012 Wages Order from 1 October 2013, it is deemed to be an order made under section 4 of the Act.
At ddibenion gorfodi darpariaethau Gorchymyn Cyflogau 2012 o 1 Hydref 2013 ymlaen, bernir ei fod yn orchymyn a wnaed o dan adran 4 o'r Ddeddf.
The rights and liabilities accrued prior to 1 October 2013 are to be enforced under the Agricultural Wages Act 1948: see article 4 of the Enterprise and Regulatory Reform (Commencement No. 1, Transitional Provisions and Savings) Order 2013 (SI 2013/1455).
Mae'r hawliau a'r rhwymedigaethau a gronnir cyn 1 Hydref 2013 i gael eu gorfodi o dan Ddeddf Cyflogau Amaethyddol 1948: gweler erthygl 4 o Orchymyn Menter a Diwygio Rheoleiddio (Cychwyn Rhif 1, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) 2013 (O.S. 2013/1455).
If, at any point, the national minimum wage exceeds any minimum rate of the 2012 Wages Order, the minimum rate in question is deemed to be the same as the national minimum wage.
Os bydd yr isafswm cyflog cenedlaethol, ar unrhyw adeg, yn uwch nag unrhyw gyfradd isaf yng Ngorchymyn Cyflogau 2012, bernir bod y gyfradd isaf o dan sylw yr un fath â'r isafswm cyflog cenedlaethol.
For ease of reference, a copy of the Agricultural Wages (England and Wales) Order 2012 is annexed to these Notes.
Er hwylustod cyfeirio, atodir copi o Orchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru a Lloegr) 2012 i'r Nodiadau hyn.
Section 13 - Report on operation and effect of this Act
Adran 13 - Adroddiad ar weithrediad ac effaith y Ddeddf hon
This section provides that the Welsh Ministers must review the operation and effect of the Act during the first three years after the Act receives Royal Assent.
Mae'r adran hon yn darparu bod rhaid i Weinidogion Cymru adolygu gweithrediad ac effaith y Ddeddf yn ystod y tair blynedd gyntaf ar ôl i'r Ddeddf gael y Cydsyniad Brenhinol.
As soon as is practically possible after the expiration of the three year period, and having consulted interested parties in order to assist them, the Welsh Ministers must produce a report containing information on the operation and effect of the Act, and lay it before the National Assembly for Wales.
Cyn gynted ag y bo'n ymarferol bosibl ar ôl i'r cyfnod tair blynedd ddod i ben, ac ar ôl ymgynghori â phartïon a chanddynt fuddiant er mwyn eu cynorthwyo, rhaid i Weinidogion Cymru lunio adroddiad sy'n cynnwys gwybodaeth am weithrediad ac effaith y Ddeddf, a'i osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
The report will also contain details about the effect of the Act upon agricultural workers, employers of agricultural workers and the agricultural sector generally.
Bydd yr adroddiad hefyd yn cynnwys manylion ynghylch effaith y Ddeddf ar weithwyr amaethyddol, cyflogwyr gweithwyr amaethyddol a'r sector amaethyddol yn gyffredinol.
The Welsh Ministers must publish the report after it has been laid before the National Assembly for Wales.
Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi'r adroddiad ar ôl iddo gael ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
This section operates to bring to an end to the Act four years from the date it comes into force, unless the Welsh Ministers make an order stating that the Act is to continue in effect.
Mae'r adran hon yn gweithredu er mwyn dod â'r Ddeddf i ben bedair blynedd ar ôl y dyddiad y daw i rym, oni bai bod Gweinidogion Cymru yn gwneud gorchymyn sy'n nodi bod y Ddeddf i barhau mewn effaith.
An order to retain the effect of the Act may only be made by the Welsh Ministers after the 3 year review period has expired but before four years has passed since the date the Act came into force.
Ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud gorchymyn i gadw effaith y Ddeddf ond ar ôl i'r cyfnod adolygu o 3 blynedd ddod i ben ond cyn i bedair blynedd fynd heibio ers y dyddiad y daeth y Ddeddf i rym.
Section 15 - Offences by bodies corporate
Adran 15 - Troseddau gan gyrff corfforaethol
Under this section, where a body corporate (such as a company) has committed an offence, a director, manager or secretary or similar officer of a body corporate (or a person purporting to hold such a position) may also be convicted and punished for the offence if they were involved with the commission of the offence, knew about it (and did nothing) or should reasonably have known about it.
O dan yr adran hon, pan fo corff corfforaethol (megis cwmni) wedi cyflawni trosedd, caniateir hefyd farnu cyfarwyddwr, rheolwr neu ysgrifennydd neu swyddog tebyg mewn corff corfforaethol (neu berson sy'n honni ei fod mewn swydd o'r fath) yn euog o'r drosedd, a'i gosbi amdani, os oedd yn ymwneud â chomisiynu'r drosedd, yn gwybod amdani (heb wneud unrhyw beth) neu y dylai fod wedi gwybod amdani'n rhesymol.
Section 16 - Ancillary provision
Adran 16 - Darpariaeth ategol
This section enables the Welsh Ministers to make orders for the purposes of, or in connection with giving full effect to the Act.
Mae'r adran hon yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud gorchmynion at ddibenion rhoi effaith lawn i'r Ddeddf ac mewn cysylltiad â hynny.
This is might be used, for example, to make consequential amendments to other legislation when the Agricultural Advisory Panel for Wales is established.
Gellid defnyddio hon, er enghraifft, i wneud diwygiadau canlyniadol i ddeddfwriaeth arall pan sefydlir Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth Cymru.
Section 17 - Orders and regulations
Adran 17 - Gorchmynion a rheoliadau
This section provides that the powers of the Welsh Ministers to make orders and regulations are to be exercised by statutory instrument.
Mae'r adran hon yn darparu bod pwerau Gweinidogion Cymru i wneud gorchmynion a rheoliadau i'w harfer drwy offeryn statudol.
When doing so, the Welsh Ministers can make other provision in order to give full effect to those orders or regulations (such as dealing with transitional matters).
Wrth wneud hynny, caiff Gweinidogion Cymru wneud darpariaeth arall er mwyn rhoi effaith lawn i'r gorchmynion neu'r rheoliadau hynny (megis ymdrin â materion trosiannol).
Orders under sections 2, 14 and section 16 (where it modifies the text of an Act or Measure of the National Assembly for Wales or an Act of Parliament) are subject to the affirmative procedure, as are regulations made under section 7.
Mae gorchmynion o dan adrannau 2, 14 ac adran 16 (pan fo'n addasu testun Deddf neu Fesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu Ddeddf Seneddol), a hefyd y rheoliadau a wneir o dan adran 7, yn ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol.
Any other orders made under the Act are subject to the negative procedure.
Mae unrhyw orchmynion eraill a wneir o dan y Ddeddf yn ddarostyngedig i'r weithdrefn negyddol.
This section provides the meaning of key terms within the Act.
Mae'r adran hon yn darparu ystyr termau allweddol yn y Ddeddf.
Of particular note here are the definitions of "agricultural worker" and "agriculture."
Ymhlith y diffiniadau sy'n werth sylwi arnynt yma mae "gweithiwr amaethyddol" ac "amaethyddiaeth".
An "agricultural worker" is a person employed in agriculture in Wales, whether or not the whole of the work undertaken by virtue of that employment is undertaken in Wales.
Mae "gweithiwr amaethyddol" yn berson a gyflogir ym maes amaethyddiaeth yng Nghymru, p'un a yw'r holl waith yr ymgymerir ag ef yn rhinwedd y gyflogaeth honno yn cael ei wneud yng Nghymru ai peidio.
Therefore, it matters not what percentage of work is undertaken in Wales for a worker to be covered by the provisions of the Act.
Felly, nid yw o bwys pa ganran o waith a wneir yng Nghymru i ddarpariaethau'r Ddeddf fod yn berthnasol i weithiwr.
The definition of "agriculture" is broader than what might typically be seen as its ordinary meaning.
Mae'r diffiniad o "amaethyddiaeth" yn ehangach na'r hyn y gellid ei ystyried fel ei hystyr cyffredin.
As a result, while it encompasses cultivating soil for the growing crops and the rearing of animals to provide food, wool and other products, it also includes such activities as dairy farming, using land as osier land or as a market garden.
O ganlyniad, er ei fod yn cynnwys trin pridd i dyfu cnydau a magu anifeiliaid i ddarparu bwyd, gwlân a chynhyrchion eraill, mae hefyd yn cynnwys gweithgareddau megis ffermio gwartheg godro, defnyddio tir fel tir helyg gwiail neu fel gardd farchnad.
Section 19 - Commencement
Adran 19 - Cychwyn
The provisions of the Act came into force on 30 July 2014, the day of Royal Assent.
Daeth darpariaethau'r Ddeddf i rym ar 30 Gorffennaf 2014, diwrnod y Cydsyniad Brenhinol.
70. The following table sets out the dates for each stage of the Act's passage through the National Assembly for Wales.
70. Mae'r tabl a ganlyn yn nodi'r dyddiadau ar gyfer pob cyfnod o hynt y Ddeddf drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru.