text_en
large_stringlengths
2
1.78k
text_cy
large_stringlengths
3
1.84k
The health and well-being of the population of Wales is continuing to improve.
Mae iechyd a llesiant poblogaeth Cymru yn parhau i wella.
In general, people are living longer and enjoy better health than ever before.
Yn gyffredinol, mae pobl yn byw yn hirach ac yn mwynhau iechyd gwell nag erioed o'r blaen.
However, Wales still faces a number of specific and significant health challenges.
Fodd bynnag, mae Cymru yn parhau i wynebu nifer o heriau iechyd penodol a sylweddol.
These range from overarching demographic challenges such as an ageing population and continuing inequalities in health, to more discrete ones posed by lifestyle choices and contemporary developments within society.
Mae'r rhain yn amrywio o heriau demograffig hollgyffredinol megis poblogaeth sy'n heneiddio ac anghydraddoldebau parhaus mewn iechyd, i rai sy'n fwy arwahanol a ddaw yn sgil dewisiadau o ran ffordd o fyw a datblygiadau cyfoes mewn cymdeithas.
Legislation has historically played an important role in improving and protecting health.
Yn y gorffennol, mae deddfwriaeth wedi chwarae rôl bwysig o ran gwella ac amddiffyn iechyd.
Legislation in areas as varied as the ban on smoking in enclosed public places and wearing seat-belts has been seen to make significant contributions to health and well-being.
Bernir bod deddfwriaeth mewn meysydd mor amrywiol â gwahardd ysmygu mewn mannau cyhoeddus caeedig a gwisgo gwregysau diogelwch wedi gwneud cyfraniadau sylweddol i iechyd a llesiant.
This Act was developed following consultation on a Public Health White Paper, which included a series of legislative proposals to address a number of public health issues in Wales.
Datblygwyd y Ddeddf hon yn dilyn ymgynghoriad ar Bapur Gwyn Iechyd y Cyhoedd, a oedd yn cynnwys cyfres o gynigion deddfwriaethol er mwyn mynd i'r afael â nifer o faterion iechyd y cyhoedd yng Nghymru.
The focus of the Act is on shaping social conditions that are conducive to good health, and where possible, avoiding health harms that can be averted.
Mae'r Ddeddf yn canolbwyntio ar lunio amodau cymdeithasol sy'n ffafriol i iechyd da, a phan fo'n bosibl, osgoi ffactorau sy'n niweidio iechyd y gellir eu hosgoi.
GENERAL OVERVIEW OF THE ACT
TROSOLWG CYFFREDINOL O‟R DDEDDF
The Act includes provisions in a number of discrete policy areas, all of which aim to address contemporary challenges to health and well-being in Wales.
Mae'r Ddeddf yn cynnwys darpariaethau mewn nifer o feysydd polisi arwahanol, a nod pob un ohonynt yw ymdrin â heriau cyfoes i iechyd a llesiant yng Nghymru.
The Act is comprised of 127 sections (within 9 Parts) and 4 Schedules.
Yn y Ddeddf ceir 127 o adrannau (mewn 9 Rhan) a 4 Atodlen.
Part 1 - Overview
Rhan 1 - Trosolwg
Part 2 requires the Welsh Ministers to publish and review a national strategy on preventing obesity and reducing obesity levels in Wales.
Mae Rhan 2 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi ac adolygu strategaeth genedlaethol ar atal gordewdra a lleihau lefelau gordewdra yng Nghymru.
Part 3 - Tobacco and Nicotine Products
Rhan 3
Chapter 1: Restricts smoking in enclosed and substantially enclosedworkplaces and public places, and in outdoor care settings for children, school grounds, hospital grounds and public playgrounds. It also gives the Welsh Ministers power to extend the restrictions to other premises, and to vehicles;
Mae Pennod 1 yn cyfyngu ar ysmygu mewn gweithleoedd caeedig asylweddol gaeedig a mannau cyhoeddus, ac mewn lleoliadau gofal awyr agored i blant, yn nhir ysgolion, yn nhir ysbytai ac mewn meysydd chwarae cyhoeddus. Mae hefyd yn rhoi p*er i Weinidogion Cymru i ehangu'r cyfyngiadau i fangreoedd eraill, ac i gerbydau;
Chapter 2: Establishes a national register of retailers of tobacco and nicotine products;
Mae Pennod 2 yn sefydlu cofrestr genedlaethol o fanwerthwyr tybaco a chynhyrchion nicotin;
Chapter 3: Provides the Welsh Ministers with a regulation making power to add to the offences which contribute to a Restricted Premises Order (RPO) in Wales;
Mae Pennod 3 yn rhoi i Weinidogion Cymru b*er i wneud rheoliadau i ychwanegu at y troseddau sy'n cyfrannu at Orchymyn Mangre o dan Gyfyngiad yng Nghymru;
Chapter 4: Prohibits the handing over of tobacco or nicotine products (when delivered or collected in connection with their sale) to an unaccompanied person under the age of 18;
Mae Pennod 4 yn gwahardd rhoi tybaco neu gynhyrchion nicotin (pan fyddant yn cael eu danfon neu eu casglu mewn cysylltiad â'u gwerthu) i berson o dan 18 oed sydd ar ei ben ei hun;
Part 4 provides for the creation of a mandatory licensing scheme for individuals performing specified 'special procedures', namely acupuncture, body piercing, electrolysis and tattooing;
Mae Rhan 4 yn darparu ar gyfer creu cynllun trwyddedu mandadol i unigolion sy'n rhoi
Part 5 introduces a prohibition on the intimate piercing of persons under the age of 18 years;
Mae Rhan 5 yn cyflwyno gwaharddiad ar roi twll mewn rhan bersonol o gorff personau o dan 18 oed;
Part 6 contains provisions about the carrying out of health impact assessments by public bodies;
Mae Rhan 6 yn cynnwys darpariaethau ynghylch cynnal asesiadau o'r effaith ar iechyd gan gyrff cyhoeddus;
Part 7 changes the arrangements for determining applications for entry onto a Local Health Board's pharmaceutical list, to a system based on the assessed needs of local communities;
Mae Rhan 7 yn newid y trefniadau ar gyfer dyfarnu ar geisiadau ar gyfer cynnwys cofnod ar restr fferyllol Bwrdd Iechyd Lleol, i system sy'n seiliedig ar anghenion wedi eu hasesu o safbwynt cymunedau lleol;
Part 8 requires local authorities to prepare a local toilets strategy in order to plan how they will meet the needs of their communities for access to toilets for public use; and
Mae Rhan 8 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol lunio strategaeth toiledau lleol er mwyn cynllunio sut y byddant yn diwallu anghenion eu cymunedau o ran cael mynediad at doiledau i'r cyhoedd eu defnyddio; ac
Part 9 contains miscellaneous provisions about the use of fixed penalty receipts in respect of food hygiene rating offences, and a number of general provisions, including in relation to regulations, interpretation, powers to make consequential and transitional provisions, and coming into force arrangements.
Mae Rhan 9 yn cynnwys darpariaethau amrywiol ynghylch y defnydd o dderbyniadau cosb benodedig mewn cysylltiad â throseddau sgorio hylendid bwyd, a nifer o ddarpariaethau cyffredinol, gan gynnwys mewn perthynas â rheoliadau, dehongli, pwerau i wneud darpariaethau canlyniadol a throsiannol, a threfniadau dod i rym.
COMMENTARY ON SECTIONS
SYLWEBAETH AR YR ADRANNAU
Section 1 provides an overview of the main provisions of the Act.
Mae adran 1 yn rhoi trosolwg o brif ddarpariaethau'r Ddeddf.
It summarises the subjects covered in each subsequent Part.
Mae'n crynhoi'r pynciau yr ymdrinnir â hwy ym mhob Rhan ddilynol.
Section 2 - National strategy on preventing and reducing obesity: publication and review
Adran 2 - Strategaeth genedlaethol ar atal a lleihau gordewdra: cyhoeddi ac adolygu
This section places a requirement on the Welsh Ministers to publish a national strategy on preventing obesity and reducing obesity levels in Wales.
Mae'r adran hon yn gosod gofyniad ar Weinidogion Cymru i gyhoeddi strategaeth genedlaethol ar atal gordewdra a lleihau lefelau gordewdra yng Nghymru.
The strategy must set out objectives which will contribute both to preventing obesity and reducing obesity levels, as well as actions for achieving the objectives.
Rhaid i'r strategaeth nodi amcanion a fydd yn cyfrannu at atal gordewdra a lleihau lefelau gordewdra, yn ogystal â chamau gweithredu ar gyfer cyflawni'r amcanion.
The section also provides detail about how the national strategy is to be reviewed and consulted upon.
Mae'r adran hon hefyd yn darparu manylion ynghylch sut y mae'r strategaeth genedlaethol i gael ei hadolygu a sut yr ymgynghorir yn ei chylch.
The Welsh Ministers can revise the strategy at any time, but if they do so, they must publish the revised version as soon as is reasonably practicable.
Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio'r strategaeth ar unrhyw adeg, ond os ydynt yn gwneud hynny, rhaid iddynt gyhoeddi'r fersiwn ddiwygiedig cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol.
The strategy must be reviewed three years after it is first published, and after each subsequent three year period.
Rhaid i'r strategaeth gael ei hadolygu dair blynedd ar ôl iddi gael ei chyhoeddi am y tro cyntaf, ac ar ôl pob cyfnod dilynol o dair blynedd.
In developing the strategy and before each review, the Welsh Ministers must consult appropriate stakeholders.
Wrth ddatblygu'r strategaeth a chyn pob adolygiad, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â rhanddeiliaid priodol.
This section provides further detail about how the national strategy on preventing and reducing obesity is to be implemented and reported upon.
Mae'r adran hon yn darparu manylion pellach ynghylch sut y mae'r strategaeth genedlaethol ar atal a lleihau gordewdra i gael ei gweithredu a sut yr adroddir amdani.
The Welsh Ministers must take all reasonable steps to achieve the objectives set out in the most recent version of the strategy, and must publish a progress report following each review of the strategy.
Rhaid i Weinidogion Cymru gymryd pob cam rhesymol i gyflawni'r amcanion a nodir yn y fersiwn fwyaf diweddar o'r strategaeth, a rhaid iddynt gyhoeddi adroddiad cynnydd yn dilyn pob adolygiad o'r strategaeth.
CHAPTER 1 - SMOKING
PENNOD 1
This Chapter contains provisions that make enclosed and substantially enclosed public premises and shared workplaces smoke-free, as well as some specific non-enclosed premises.
Mae'r Bennod hon yn cynnwys darpariaethau sy'n gwneud mangreoedd cyhoedduscaeedig, mangreoedd cyhoeddus sylweddol gaeedig a gweithleoedd a rennir yn ddi-fwg, yn ogystal â rhai mangreoedd penodol nad ydynt yn gaeedig.
These are referred to as 'smoke-free premises'.
Cyfeirir atynt fel 'mangreoedd di-fwg'.
For the purpose of this Chapter, 'smoke-free' means that smoking is not permitted, unless the premises are exempted by regulations made under section 16 of the Act.
At ddiben y Bennod hon, ystyr 'di-fwg' yw na chaniateir ysmygu, oni bai bod y mangreoedd wedi eu hesemptio drwy reoliadau a wneir o dan adran 16 o'r Ddeddf.
This Chapter restates Chapter 1 of Part 1 of the Health Act 2006 ("Smoke-Free Premises, Places and Vehicles") in relation to Wales, with some minor modifications.
Mae'r Bennod hon yn ailddatgan Pennod 1 o Ran 1 o Ddeddf Iechyd 2006 (Mangreoedd, Mannau a Cherbydau Di-fwg) o ran Cymru, gyda rhai mân addasiadau.
It also brings additional settings into the smoke-free regime in Wales, namely outdoor care settings for children, school grounds, hospital grounds and public playgrounds.
Mae hefyd yn dod â lleoliadau ychwanegol o dan y drefn ddi-fwg yng Nghymru, sef lleoliadau gofal awyr agored i blant, tir ysgolion, tir ysbytai a meysydd chwarae cyhoeddus.
Regulations can also provide for additional premises to be smoke-free in certain circumstances.
Gall rheoliadau hefyd ddarparu i fangreoedd ychwanegol fod yn ddi-fwg o dan amgylchiadau penodol.
These additional smoke-free premises do not need to be enclosed or substantially enclosed.
Nid oes angen i'r mangreoedd di-fwg ychwanegol hyn fod yn gaeedig nac yn sylweddol gaeedig.
Regulations may also provide for vehicles to be smoke-free; such vehicles are referred to as 'smoke-free vehicles' in this Chapter.
Caiff rheoliadau hefyd ddarparu i gerbydau fod yn ddi-fwg; cyfeirir at gerbydau o'r fath fel 'cerbydau di-fwg' yn y Bennod hon.
This section provides the definition of "smoking" for Chapter 1 of Part 3 of the Act.
Mae'r adran hon yn darparu'r diffiniad o "ysmygu" ar gyfer Pennod 1 o Ran 3 o'r Ddeddf.
The definition covers the smoking of cigarettes, pipes, cigars, herbal cigarettes and waterpipes (often known as hookah or shisha pipes) etc.
Mae'r diffiniad yn cwmpasu ysmygu sigaréts, pibau, sigârs, sigaréts llysieuol a phibau dŵr (a elwir yn aml yn bibau hookah neu shisha) etc.
It does not encompass "e-cigarettes."
Nid yw'n cwmpasu "e-sigaréts".
Section 5 - Offence of smoking in smoke-free premises or vehicle
Adran 5 - Y drosedd o ysmygu mewn mangre ddi-fwg neu gerbyd di-fwg
This section makes it a criminal offence to smoke in smoke-free premises or in a smoke-free vehicle.
Mae'r adran hon yn ei gwneud yn drosedd i ysmygu mewn mangre ddi-fwg neu gerbyd di-fwg.
The offence may only be tried in the magistrates' court and is punishable on conviction by a fine not exceeding level 1 on the standard scale.
Dim ond yn y llys ynadon y caniateir gwrando achos am y drosedd hon a chaniateir i'r drosedd gael ei chosbi ar euogfarn drwy ddirwy nad yw'n uwch na lefel 1 ar y raddfa safonol.
The levels on the standard scale are set out in section 37 of the Criminal Justice Act 1982.
Nodir y lefelau ar y raddfa safonol yn adran 37 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1982.
A fixed penalty notice may be issued by an authorised officer instead of prosecution (see section 27).
Caiff swyddog awdurdodedig ddyroddi hysbysiad cosb benodedig yn hytrach nag erlyn (gweler adran 27).
Section 6 - Offence of failing to prevent smoking in smoke-free premises
Adran 6 - Y drosedd o fethu ag atal ysmygu mewn mangre ddi-fwg
This section requires managers of smoke-free workplaces, public premises and outdoor care settings for children to take reasonable steps to prevent smoking in those places.
Mae'r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i reolwyr gweithleoedd di-fwg, mangreoedd cyhoeddus a lleoliadau gofal awyr agored i blant gymryd camau rhesymol i atal ysmygu yn y mannau hynny.
The Welsh Ministers may make regulations imposing corresponding duties in respect of smoke-free school grounds, hospital grounds and public playgrounds, and any additional smoke-free premises and smoke-free vehicles designated by the Welsh Ministers under sections 13 or 15.
Caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau sy'n gosod dyletswyddau cyfatebol mewn cysylltiad â thir ysgolion di-fwg, tir ysbytai di-fwg a meysydd chwarae cyhoeddus di-fwg, ac unrhyw fangreoedd di-fwg ychwanegol a cherbydau di-fwg a ddynodir gan Weinidogion Cymru o dan adran 13 neu 15.
Any person who fails to comply with these duties is committing an offence.
Mae unrhyw berson sy'n methu â chydymffurfio â'r dyletswyddau hyn yn cyflawni trosedd.
The offence may only be tried in the magistrates' court and is punishable on conviction by a fine not exceeding level 4 on the standard scale.
Dim ond yn y llys ynadon y caniateir gwrando achos am y drosedd hon a chaniateir i'r drosedd gael ei chosbi ar euogfarn drwy ddirwy nad yw'n uwch na lefel 4 ar y raddfa safonol.
Section 7 - Workplaces
Adran 7 - Gweithleoedd
This section details what is meant by "workplaces" in the context of the smoke-free premises in this Chapter.
Mae'r adran hon yn manylu ar ystyr "gweithleoedd" yng nghyd-destun y mangreoedd di-fwg yn y Bennod hon.
A "workplace" is a place that is used as a place of work by more than one person (irrespective of whether such people work there at the same time), or is a place of work for one person but is somewhere that the public may have access to for certain purposes.
Ystyr "gweithle" yw man a ddefnyddir fel man gwaith gan fwy nag un person (ni waeth a yw'r bobl hynny yn gweithio yno ar yr un pryd), neu fan gwaith i un person ond y caiff y cyhoedd gael mynediad iddo at ddibenion penodol.
For instance, a shop where only one person works would be a workplace for the purposes of the Chapter.
Er enghraifft, byddai siop lle y mae un person yn unig yn gweithio yn weithle at ddibenion y Bennod.
Where only parts of the premises are used as a place of work, only those parts are smoke-free.
Pan fo rhannau o'r fangre yn unig yn cael eu defnyddio fel man gwaith, dim ond y rhannau hynny sy'n ddi-fwg.
In all cases, only those areas that are enclosed or substantially enclosed are smoke-free.
Ym mhob achos, dim ond yr ardaloedd hynny sy'n gaeedig neu'n sylweddol gaeedig sy'n ddi-fwg.
All workplaces are smoke-free all of the time, except that a dwelling used as a workplace is smoke-free only when being used as such.
Mae pob gweithle yn ddi-fwg drwy'r amser, ac eithrio nad yw annedd a ddefnyddir fel gweithle ond yn ddi-fwg pan y'i defnyddir felly.
So for instance if a person uses their home as a workplace, and members of the public might come to it to obtain the goods or services offered, his/her home will be smoke-free only in the parts of it used as a workplace, and only when those parts are being used by the person for work.
Er enghraifft, felly, os yw person yn defnyddio ei gartref fel gweithle, a'i bod yn bosibl y daw aelodau o'r cyhoedd yno i gael y nwyddau neu'r gwasanaethau a gynigir, yna dim ond yn y rhannau ohono a ddefnyddir fel gweithle, a dim ond pan fo'r rhannau hynny yn cael eu defnyddio gan y person ar gyfer ei waith, y bydd ei gartref yn ddi-fwg.
Section 8 - Premises that are open to the public
Adran 8 - Mangreoedd sydd ar agor i'r cyhoedd
This section details what is meant by "premises that are open to the public" in the context of smoke-free premises in this Chapter.
Mae'r adran hon yn manylu ar ystyr "mangreoedd sydd ar agor i'r cyhoedd" yng nghyd-destun mangreoedd di-fwg yn y Bennod hon.
It includes all premises that are open to the public or a section of the public (irrespective of whether this is by invitation or not, or whether there is a charge for entry or not).
Mae'n cynnwys pob mangre sydd ar agor i'r cyhoedd neu garfan o'r cyhoedd (ni waeth a yw hyn drwy wahoddiad ai peidio, neu a delir am fynediad ai peidio).
So, for example, places of worship, private members' clubs and all licensed premises would be open to the public for the purposes of this Chapter.
Er enghraifft, felly, byddai mannau addoli, clybiau aelodau preifat a phob mangre drwyddedig ar agor i'r cyhoedd at ddibenion y Bennod hon.
Where only parts of the premises are open to the public, only those parts are smoke-free.
Pan fo rhannau o'r fangre yn unig ar agor i'r cyhoedd, dim ond y rhannau hynny sy'n ddi-fwg.
All such premises are smoke-free only when open to the public and only in those areas that are enclosed or substantially enclosed.
Dim ond pan fydd ar agor i'r cyhoedd y bydd unrhyw fangre o'r fath yn ddi-fwg a dim ond yn yr ardaloedd hynny sy'n gaeedig neu'n sylweddol gaeedig.
Section 9 - Outdoor care settings for children
Adran 9 - Lleoliadau gofal awyr agored i blant
This section provides that outdoor care settings for children in Wales are smoke-free premises.
Mae'r adran hon yn darparu bod lleoliadau gofal awyr agored i blant yng Nghymru yn fangreoedd di-fwg.
It provides details about what is meant by "outdoor care settings for children" in the context of smoke-free premises in this Chapter.
Mae'n darparu manylion ynghylch ystyr "lleoliadau gofal awyr agored i blant" yng nghyd-destun mangreoedd di-fwg yn y Bennod hon.
The areas covered by this section are the outdoor areas of those premises which are covered by Part 2 of the Children and Families (Wales) Measure 2010.
Yr ardaloedd a gwmpesir gan yr adran hon yw ardaloedd awyr agored y mangreoedd hynny sydd wedi eu cwmpasu gan Ran 2 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010.
These are premises which provide day care or child minding for a child or children under the age of 12.
Mae'r rhain yn fangreoedd sy'n darparu gofal dydd neu wasanaeth gwarchod plant ar gyfer plentyn neu blant o dan 12 oed.
The outdoor areas are only smoke-free when the premises are being used for day care or child minding.
Dim ond pan yw'r fangre yn cael ei defnyddio ar gyfer gofal dydd neu wasanaeth gwarchod plant y mae'r ardaloedd awyr agored yn ddi-fwg.
In the case of child minders providing care in their own homes, the outdoor areas are only smoke-free if one or more of the children are in the outdoor area.
Yn achos gwarchodwyr plant sy'n darparu gofal yn eu cartrefi eu hunain, dim ond os yw un neu ragor o'r plant yn yr ardal awyr agored y mae'r ardaloedd awyr agored yn ddi-fwg.
This section provides that school grounds in Wales are smoke-free premises.
Mae'r adran hon yn darparu bod tir ysgolion yng Nghymru yn fangreoedd di-fwg.
It provides details about what is meant by "school grounds" in the context of smoke-free premises in this Chapter.
Mae'n darparu manylion ynghylch ystyr "tir ysgolion" yng nghyd-destun mangreoedd di-fwg yn y Bennod hon.
Grounds being used by a school but that do not adjoin the school are smoke-free only when, and in those parts, being used for the provision of education or childcare (subsection (3.
Mae tir sy'n cael ei ddefnyddio gan ysgol ond nad yw'n cydffinio â hi yn ddi-fwg pan y'i defnyddir ar gyfer darparu addysg neu ofal plant yn unig, ac yn y rhannau hynny'n unig (is-adran (3.
So for example, if a school has a sports field that is for its sole use, but which is across the road from the school, the sports field will be smoke-free only when being used for educational or childcare purposes.
Er enghraifft, felly, os oes gan ysgol gae chwarae at ei defnydd ei hun yn unig, ond sydd ar draws y ffordd i'r ysgol, dim ond pan fydd y cae chwarae yn cael ei ddefnyddio at ddibenion addysgol neu ofal plant y bydd yn ddi-fwg.
"Childcare" is defined in section 28.
Diffinnir "gofal plant" yn adran 28.
But if the sports field adjoins the school, it will be smoke-free when it is being used for the purpose of education or childcare, or when the school itself is being used for education or childcare (subsection (2.
Ond os yw'r cae chwarae yn cydffinio â'r ysgol, bydd yn ddi-fwg pan yw'n cael ei ddefnyddio at ddiben addysg neu ofal plant, neu pan yw'r ysgol ei hun yn cael ei defnyddio ar gyfer addysg neu ofal plant (is-adran (2.
So, in this instance the sports field will be smoke-free both during school hours, and if (for example) there is an after-school club in the school hall, while the club is being held.
Felly, yn yr achos hwn bydd y cae chwarae yn ddi-fwg yn ystod oriau ysgol, ac os oes clwb ar ôl yr ysgol yn neuadd yr ysgol (er enghraifft), tra bo'r clwb hwnnw yn cael ei gynnal.
Schools that provide residential accommodation to pupils may designate an area where smoking is allowed.
Caiff ysgolion sy'n darparu llety preswyl i ddisgyblion ddynodi ardal lle y caniateir ysmygu.
The Welsh Ministers may specify in regulations conditions relating to any such designation, for example about the size or location of the designated area.
Caiff Gweinidogion Cymru bennu mewn rheoliadau amodau sy'n ymwneud ag unrhyw ddynodiad o'r fath, er enghraifft ynghylch maint neu leoliad yr ardal ddynodedig.
Premises which are used to any extent as a dwelling are not smoke-free under this section, so, for instance, the garden of a caretaker's house within the school grounds would not be smoke-free.
Nid yw mangre a ddefnyddir i unrhyw raddau fel annedd yn ddi-fwg o dan yr adran hon, felly, er enghraifft, ni fyddai gardd tŷ'r gofalwr sydd o fewn tir yr ysgol yn ddi-fwg.
This section provides that hospital grounds in Wales are smoke-free premises.
Mae'r adran hon yn darparu bod tir ysbytai yng Nghymru yn fangreoedd di-fwg.
It provides details about what is meant by "hospital grounds" in the context of smoke-free premises in this Chapter.
Mae'n darparu manylion ynghylch ystyr "tir ysbytai" yng nghyd-destun mangreoedd di-fwg yn y Bennod hon.
It includes all grounds that adjoin the hospital, are used by or occupied by it, and are not enclosed or substantially enclosed.
Mae'n cynnwys yr holl dir sy'n cydffinio â'r ysbyty, sy'n cael ei ddefnyddio neu ei feddiannu ganddo, ac nad yw'n gaeedig nac yn sylweddol gaeedig.
An area may be designated within the hospital grounds where smoking is allowed.
Caniateir dynodi ardal ar dir yr ysbyty lle y caniateir ysmygu.
The Welsh Ministers may specify in regulations conditions relating to any designation, for example about the size or location of any designated area.
Caiff Gweinidogion Cymru bennu mewn rheoliadau amodau sy'n ymwneud ag unrhyw ddynodiad, er enghraifft ynghylch maint neu leoliad unrhyw ardal ddynodedig.
There is an exemption from the smoke-free requirements for the grounds of adult care homes and of adult hospices, and for dwellings.
Mae esemptiad o'r gofynion di-fwg ar gyfer tir cartrefi gofal i oedolion a thir hosbisau i oedolion, ac ar gyfer anheddau.
So if, for instance, a member of staff has accommodation provided within the grounds of the hospital, the garden of his/her home will not be smoke-free.
Er enghraifft, felly, os yw llety yn cael ei ddarparu i aelod o staff ar dir yr ysbyty, ni fydd gardd ei gartref yn ddi-fwg.
Nor will the garden of an adult hospice be smoke free.
Ni fydd gardd hosbis i oedolion yn ddi-fwg ychwaith.
Section 12 - Public playgrounds
Adran 12 - Meysydd chwarae cyhoeddus
This section provides that outdoor public playgrounds in Wales are smoke-free premises.
Mae'r adran hon yn darparu bod meysydd chwarae cyhoeddus awyr agored yng Nghymru yn fangreoedd di-fwg.
It provides details about what is meant by "public playgrounds" in the context of smoke-free premises in this Chapter.
Mae'n darparu manylion ynghylch ystyr "meysydd chwarae cyhoeddus" yng nghyd-destun mangreoedd di-fwg yn y Bennod hon.